Mabli - Y Sudd Hud (2020)
Y sudd hud sy'n rheoli pob dim -
yr hyn ti'n neud i ddillad dy gorff sydd yn brin,
Gad i'r hylif ymlacio dy gorff yn llwyr
a chyfarch yr anghenfil sy'n glanio'n yr hwyr.
Y sudd hud, a wnei di f'achub i?
Y sudd hud, ac arwain fi i fyd sy'n glir?
Y sudd hud, cymer diferyn bach,
Bydd y poen yn diflanu a'r hunllef yn saff.
Mae'n anodd credu yr hyn ti'n neud -
trio bod yn gyfrinachol ond mae'n amlwg rhaid dweud,
Gen ti allwedd i bob un drws mae'n siwr
ac o hyd yn camddeall y gwahaniaeth rhwng dwr.
Y sudd hud, a wnei di f'achub i?
Y sudd hud, ac arwain fi i fyd sy'n glir?
Y sudd hud, cymer diferyn bach,
Bydd y poen yn diflanu a'r hunllef yn saff.
Cnoi dy foch er mwyn osgoi sip-sip,
Dal yn dynn - gwell peidio colli grip,
Mwgwd 'mlaen, dangos rheolaeth llwyr,
Cyn i'r lleuad ddeffro a llonyddu'r hwyr.
Y sudd hud, a wnei di f'achub i?
Y sudd hud, ac arwain fi i fyd sy'n glir?
Y sudd hud, cymer diferyn bach,
Bydd y poen yn diflanu a'r hunllef yn saff.
Comments
Post a Comment