Mabli - Y Sudd Hud (2020)
Y sudd hud sy'n rheoli pob dim - yr hyn ti'n neud i ddillad dy gorff sydd yn brin, Gad i'r hylif ymlacio dy gorff yn llwyr a chyfarch yr anghenfil sy'n glanio'n yr hwyr. Y sudd hud, a wnei di f'achub i? Y sudd hud, ac arwain fi i fyd sy'n glir? Y sudd hud, cymer diferyn bach, Bydd y poen yn diflanu a'r hunllef yn saff. Mae'n anodd credu yr hyn ti'n neud - trio bod yn gyfrinachol ond mae'n amlwg rhaid dweud, Gen ti allwedd i bob un drws mae'n siwr ac o hyd yn camddeall y gwahaniaeth rhwng dwr. Y sudd hud, a wnei di f'achub i? Y sudd hud, ac arwain fi i fyd sy'n glir? Y sudd hud, cymer diferyn bach, Bydd y poen yn diflanu a'r hunllef yn saff. Cnoi dy foch er mwyn osgoi sip-sip, Dal yn dynn - gwell peidio colli grip, Mwgwd 'mlaen, dangos rheolaeth llwyr, Cyn i'r lleuad ddeffro a llonyddu'r hwyr. Y sudd hud, a wnei di f'achub i? Y sudd hud, ac arwain fi i fyd sy'n glir? Y sudd hud, cymer diferyn bach, Bydd y...